COFNODION

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

Dydd Iau 4 Ionawr 2024

18.00 – 19.30

Noddwyd y cyfarfod gan Mark Isherwood AS

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

Dr Rob Wilks (Ysgrifennydd)

Adam Howls, (Gwasanaeth Cyfieithu a Dehongli Cymru, neu WITS)

Alison Bryan

Cath Booth (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, neu’r WCDP)

Dawn Sommerlad (Y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, neu COS)

Dr Julia Terry (Prifysgol Abertawe)

John Day

Margaret Buchanon

Michelle Fowler (Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre)

Nigel Wiliams (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, neu’r NWSSP)

Polly Winn (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, neu’r RNID)

Rebecca Mansell (Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, neu’r BDA)

Sarah Thomas (COS)

Sonia Thomas (Llais)

Stuart Parkinson

Tom Lichy (Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, neu’r BDA)

Tony Evans

Victoria Bishop-Rowe (Auditory Verbal UK)

Mark Davies

 

Julie Doyle

Sam Hopkins

Hilary McLean

Cyfres Siaradwyr #2

 

Dr Christopher Shank, Prifysgol Bangor

Dr Anouschka Foltz, Prifysgol Graz, Awstria

 

Cafodd y sgwrs hon ei chanslo gan nad oedd Dr Christopher Shank na Dr Anouschka Foltz yn bresennol yn y cyfarfod.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023

Cafwyd cynnig i gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023.  Gwnaed y cynnig i gymeradwyo’r cofnodion gan Alison Bryan, a chafodd y cynnig ei eilio gan Julia Terry.  Ni chafwyd gwrthwynebiad.

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i anfon y cofnodion at y Swyddfa Gyflwyno.

Materion sy’n codi

1.    Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu llythyr ar ran y grŵp at Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mewn perthynas â’r ffaith bod pobl ddall a byddar yng Nghymru yn anweledig – CAM WEDI’I GYMRYD, AC YMATEB WEDI DOD I LAW (ac wedi’i rannu).

Dywedodd Margaret Buchanan nad oedd yr ymateb wedi gwneud llawer o argraff arni. Dywedodd ei bod yn ymwybodol bod y sector iechyd yn ychwanegu materion pobl ddall a byddar at ei waith papur, ond nododd nad oedd y Gweinidog wedi mynd i’r afael â’r ffaith bod pobl ddall a byddar yn cael eu hanwybyddu. Dywedodd y byddai wedi dymuno gweld ymateb a oedd yn canolbwyntio mewn modd mwy manwl a phenodol ar faterion pobl ddall a byddar, ac ar y camau pendant sy’n cael eu cymryd, a hynny er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r gymuned, gan gadarnhau bod pobl ddall a byddar yn cael eu cydnabod fel unigolion yng Nghymru. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod yn cytuno â Ms Buchanan, gan nodi bod yr ymatebion braidd yn amwys.  Gwnaeth y Gweinidog ofyn am dystiolaeth ac ymchwil, a dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n hapus i anfon y deunydd hwn at y Gweinidog ar ôl i Ms Buchanan ei ddarparu.  Serch hynny, yn ei farn ef, nid oedd yr ymateb yn arbennig o gadarn. 

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i anfon yr ymchwil a gesglir gan Ms Buchanan at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

2.    Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu llythyr at bwyllgor addysg y Senedd, CBAC a sefydliad Cymwysterau Cymru mewn perthynas â’r pryderon a godwyd ynghylch y cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) – CAM WEDI’I GYMRYD.

Daeth ymateb gan CBAC i law y bore yma, a darllenodd y Cadeirydd yr ymateb hwnnw i’r grŵp. 

Mae'r llythyr yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu cymhwyster TGAU penodol i Gymru ym mhob pwnc a gaiff ei gymeradwyo gan sefydliad Cymwysterau Cymru. Mae'n mynegi safbwynt cadarnhaol ynghylch y potensial ar gyfer datblygu cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain i gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae'n cydnabod heriau amrywiol, fel dod o hyd i staff addysgu medrus ac argaeledd arholwyr addas. Yn Lloegr, mae ymdrechion cyfochrog yn cael eu gwneud  gan yr Adran Addysg ac Ofqual i ddatblygu TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain o fis Medi 2025 ymlaen, ac mae trafodaethau cydweithredol yn digwydd gyda sefydliad CBAC. Mae'r gwaith ymgysylltu a wneir yng Nghymru yn canolbwyntio ar gyfathrebu ag arbenigwyr addysgu ac asesu ym maes Iaith Arwyddion Prydain, er mwyn deall yn well y gofynion ar gyfer cyflwyno TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain. Awgrymodd y Cadeirydd fod y grŵp yn cynnal trafodaethau pellach yn y cyfarfod nesaf, ar ôl i'r aelodau gael cyfle i ddarllen y llythyr yn ei gyfanrwydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n anfon y llythyr at yr aelodau yn dilyn y cyfarfod.

Mynegodd Rebecca Mansell, Prif Weithredwr y BDA, frwdfrydedd dros ddatblygu’r cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain, gan bwysleisio’r angen am gyfranogiad gweithredol gan y gymuned fyddar yn y broses o gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu’r cymhwyster. Tynnodd sylw at y cysylltiad cryf y mae’r gymuned fyddar wedi’i feithrin ag Iaith Arwyddion Prydain, gan bwysleisio pwysigrwydd perchnogaeth a chyfranogiad gweithredol yn y broses dan sylw. Awgrymodd Ms Mansell y dylid uwchsgilio athrawon byddar a sicrhau bod y cymhwyster TGAU yn cael ei gyflwyno gan unigolion byddar, tra’n cydnabod yr angen am unigolion priodol sy’n clywed sydd â’r cymwysterau angenrheidiol.

Mynegodd y Cadeirydd bryderon ynghylch y ffaith bod prinder athrawon plant byddar yng Nghymru.  Awgrymodd Ms Buchanan y dylid ceisio cynnwys rhieni ac aelodau'r gymuned drwy raglen carlam.

Soniodd Ms Buchanan am sawl ffordd o gynyddu nifer yr athrawon ym maes Iaith Arwyddion Prydain, gan gynnwys rhoi cymorth i athrawon byddar o ran sicrhau statws athro cymwysedig.

Trafododd yr Ysgrifennydd ei ymchwil parhaus a'i argymhellion o ran cynyddu cyrsiau Iaith Arwyddion Prydain ar lefel gradd, ac ymgysylltu â phrifysgolion yng Nghymru.

Daeth y drafodaeth i ben gyda'r awgrym bod y mewnwelediadau hyn yn cael eu cynnwys mewn llythyr at y Gweinidog addysg. Yn ogystal, archwiliwyd y syniad o ganolfannau dynodedig ar gyfer arholiadau TGAU ym mhob sir.

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i anfon llythyr CBAC at aelodau’r grŵp, cynnwys eitem gysylltiedig ar agenda'r cyfarfod nesaf, ac ysgrifennu at y Gweinidog addysg, gan nodi’r mewnwelediadau uchod.

3.    Yr Ysgrifennydd i godi pryderon y grŵp â Llywodraeth Cymru ynghylch y broses o gomisiynu cyfieithwyr nad ydynt wedi’u cymhwyso i wneud gwaith ar ymgynghoriadau – CAM WEDI’I GYMRYD AC YMATEB WEDI DOD I LAW (ac wedi’i rannu).

4.    Yr Ysgrifennydd i rannu manylion cyswllt Cymwysterau Cymru â Ms Winn ar ôl iddynt ddod i law – CAM HEB EI GYMRYD HYD YN HYN

Nid yw’r Ysgrifennydd wedi cael ymateb gan sefydliad Cymwysterau Cymru gan fod y llythyr wedi’i anfon at gyfeiriad e-bost cyffredinol.  Yr Ysgrifennydd i gymryd camau dilynol.

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i geisio ymateb gan sefydliad Cymwysterau Cymru a rhannu gwybodaeth gyswllt â Ms Winn.

5.    Yr Ysgrifennydd i ddrafftio llythyr at y Gweinidog addysg ar ran y grŵp, yn codi’r materion uchod ac yn dilyn i fyny ar gwestiwn y Cadeirydd yn y Senedd ar 3 Mai 2023, a’r ymateb i adroddiad Dr Wilks – CAM WEDI’I GYMRYD AC YMATEB WEDI DOD I LAW (ac wedi’i rannu).

6.    Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i gefnogi’r ddeiseb ar ran y grŵp – CAM WEDI’I GYMRYD.

Gofynnodd John Day a oedd gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (yr NDCS) ymateb i gamau gweithredu 5 a 6.  Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd nad oedd Hazel Badjie o’r NDCS yn bresennol yn y cyfarfod heddiw. Dywedodd hefyd y byddai’n cymryd camau dilynol ar ôl y cyfarfod.

Cytunodd pawb y byddai’r Ysgrifennydd yn ymateb i’r Gweinidog unwaith y bydd ymatebion amrywiol y grŵp yn cael eu coladu.

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i goladu’r ymatebion cyn ymateb i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y Siambr, mewn pwyllgorau, neu drwy lythyrau, ynghylch y Siarter Iaith Arwyddion Prydain a’r angen am Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Mynegodd y Cadeirydd rwystredigaeth o ran y cynnydd araf sy’n cael ei wneud, a holodd am hynt y sefyllfa bresennol. Ymddiheurodd Ms Mansell o'r BDA am unrhyw oedi ar ochr y BDA, gan dynnu sylw at y newidiadau sefydliadol sydd wedi digwydd a’r broses o ddatblygu strategaeth newydd. Gwnaeth Ms Mansell ailddatgan ymrwymiad y BDA parthed cefnogi Deddf Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, a soniodd am ychwanegu cynrychiolydd o Gymru at fwrdd y sefydliad. Yn ôl y Cadeirydd, ymddengys fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu siarter benodol i Gymru cyn ystyried y cam o gyflwyno Deddf, a thynnodd sylw at yr angen am ddeddfwriaeth ar wahân yng Nghymru yn sgil datganoli. Dywedodd Ms Buchanan ei bod yn bwysig cynnwys pobl ddall a byddar mewn unrhyw ddeddfwriaeth, gan awgrymu y dylid eu cynnwys naill ai mewn deddfwriaeth benodol i Gymru neu o fewn Deddf ar wahân ar gyfer pobl ddall a byddar. Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod pobl yn ganolog i’r ddeddfwriaeth, yn enwedig defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, gan dynnu sylw at ddeddfwriaeth gyfredol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod yr heriau yng nghyd-destun gweithredu.

7.    Ms Winn i gasglu rhagor o wybodaeth am waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac adrodd yn ôl i'r Grŵp.

Eglurodd Ms Winn statws y gweithgorau amrywiol sydd wedi'u sefydlu o dan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl.  Mae nifer o weithgorau bellach wedi cwblhau eu gwaith, fel y gweithgor ar fynediad i wasanaethau, gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg. Bydd yr argymhellion cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi at ddibenion cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Mae gwaith nifer o weithgorau yn parhau, gan gynnwys y gweithgorau ar blant a phobl ifanc, tai hygyrch a fforddiadwy, mynediad at gyfiawnder, a grŵp ar lesiant, yr oedd Ms Winn yn disgwyl ymuno ag ef. Anogodd Ms Winn aelodau’r grŵp i fynegi diddordeb mewn ymuno â'r grwpiau hyn, gan nodi y byddai Uned Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ymchwil yn seiliedig ar argymhellion y gweithgorau.

Cododd Ms Buchanan bryderon am ddiffyg cynrychiolaeth pobl fyddar a phobl ddall a byddar yn y grwpiau hyn, a’r diffyg sylw a roddir i faterion cysylltiedig. Roedd Ms Winn yn cydnabod bod hwn yn bwynt teg.  Pwysleisiodd Ms Buchanan yr angen am well cynrychiolaeth yn y grwpiau hyn, gan awgrymu y dylai unigolion â chysylltiadau â'r gymuned fyddar yng Nghymru wneud cais i gymryd rhan.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Soniodd y Cadeirydd am y ffaith ei bod yn ofynnol i’r grŵp gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Nododd y dylai’r grŵp ethol ei Gadeirydd a'i Ysgrifennydd am y 12 mis nesaf, a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol a chyfrifon o fewn pedair wythnos. Fodd bynnag, gan nad oedd unrhyw Aelod arall o’r Senedd yn bresennol, awgrymodd y Cadeirydd y dylid cydgysylltu â'r Ysgrifennydd er mwyn trefnu cyfarfod byr i gyflawni'r swyddogaethau hyn. Cytunodd yr Ysgrifennydd, ac awgrymodd y Cadeirydd y dylid estyn allan at Aelodau o’r Senedd i'w hannog i fod yn bresennol. Awgrymodd y Cadeirydd hefyd y dylid anfon llythyr ffurfiol at y Swyddfa Gyflwyno, er mwyn ei hysbysu am y sefyllfa hon, ac y dylid cyhoeddi Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol arbennig at ddibenion ethol swyddogion am y 12 mis nesaf.

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd y byddai'n anfon y llythyr dan sylw, yn cydnabod yr oedi ac yn nodi’r rhesymau dros hyn. Soniodd hefyd fod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf wedi’i gynnal ym mis Tachwedd 2022. Yn sgil hynny, dylai’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fod wedi cael ei gynnwys fel rhan o’r cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Hydref, ond nid oedd wedi sylweddoli hynny ar y pryd. (Er gwybodaeth, nid oedd unrhyw Aelodau eraill o’r Senedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, beth bynnag).

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i gysylltu â'r Swyddfa Gyflwyno i’w hysbysu am yr oedi o ran cynnull Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y broses o ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd, a’r cam o gyflwyno adroddiad blynyddol a chyfrifon.

Diweddariad ar y Safon Gwybodaeth Hygyrch

Polly Winn, Rheolwr Materion Allanol Cymru, yr RNID

Cafodd yr eitem hon ar yr agenda ei hepgor. Felly, caiff yr eitem ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i ychwanegu'r eitem hon at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Prinder dehonglwyr

Adam Howls, Rheolwr Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru (WITS)

Diolchodd Mr Howls i’r grŵp am ei wahodd i’r cyfarfod, a rhoddodd drosolwg o'r sefyllfa o ran y ddarpariaeth o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg yng Nghymru gan WITS. Tynnodd sylw at y diffyg dehonglwyr, yn enwedig ar gyfer gofal brys a gofal heb ei gynllunio, gyda'r rhan fwyaf o geisiadau'n cael eu cynllunio ymlaen llaw. Mae heriau o ran dod o hyd i ddehonglwyr â sgiliau priodol ar fyr rybudd.

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yn well gan fyrddau iechyd yng Nghymru ddefnyddio gwasanaeth dehongli wyneb yn wyneb, a rhannodd Sarah Thomas bryderon ynghylch y ffaith bod y cyfrifoldeb dros drefnu gwasanaeth dehongli yn gorwedd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol. Soniwyd bod diffyg gwybodaeth ymhlith staff y gwasanaeth iechyd am sut i drefnu gwasanaeth dehongli. Pwysleisiwyd y ffaith ei bod yn bwysig darparu hyfforddiant i staff iechyd ynghylch ymwybyddiaeth o fyddardod. Soniodd Mr Howls am raglen hyfforddi y mae’n gweithio arni o ran mynd i'r afael â'r mater hwn.

Soniodd Mr Howls am gyfradd ddyrannu WITS, sef 96 y cant, a chytunodd i ddarparu dadansoddiad o'r data dan sylw, gan fanylu ar yr adrannau mewn ysbytai sy’n trefnu gwasanaethau dehongli. Gofynnodd yr Ysgrifennydd a oedd yn bosibl bod rhai adrannau ar goll o'r rhestr. Cododd Ms Winn bryderon ynghylch y datgysylltiad rhwng staff a WITS – sefyllfa a all arwain at ansicrwydd ynghylch argaeledd dehonglwyr. Dywedodd Mr Howls fod opsiwn gwasanaeth trosglwyddo fideo Sign Video ar gael i gleifion, fel bod modd iddynt holi'n uniongyrchol am y broses o drefnu gwasanaeth dehongli.

Holodd Ms Buchanan am ddehonglwyr sy'n defnyddio llawlyfr ar gyfer pobl ddall a byddar, gan fynegi pryderon am ddiffyg ymwybyddiaeth yn y proffesiwn meddygol am anghenion unigolion dall a byddar. Cydnabu Mr Howls y galw isel am ddehonglwyr ar gyfer pobl ddall a byddar, ond cytunodd i gynnwys elfennau sy’n ymwneud â phobl ddall a byddar yn y rhaglen hyfforddi. Dywedodd Ms Buchanan ei bod yn gwerthfawrogi'r ymdrech, gan awgrymu y dylid rhannu'r modiwl hyfforddi gyda'r grŵp er mwyn cael adborth.

Awgrymodd Mr Howls, pan fydd y rhaglen hyfforddi yn barod ar gyfer y broses ymgynghori, ei fod yn anfon y deunyddiau at y grŵp at ddibenion cael adborth. Nododd y posibilrwydd y bydd angen cael rhaglenni hyfforddi safonol ac uwch.

Cam i’w gymryd: Mr Howls i rannu gwybodaeth â’r Ysgrifennydd i'w dosbarthu ymhlith aelodau’r grŵp ar yr adeg berthnasol.

Cododd Ms Fowler bryderon am sefyllfaoedd lle mae unigolion byddar yn cael llythyrau ar gyfer apwyntiadau, heb fod gwybodaeth glir yn cael ei darparu ynghylch a oes gwasanaeth dehongli wedi'i drefnu, gan achosi dryswch ac ansicrwydd. Pwysleisiodd bwysigrwydd y cam o gynnwys gwybodaeth o'r fath mewn llythyrau apwyntiad, o ran tawelu meddyliau cleifion. Cydnabu Mr Howls y mater hwn, gan nodi ei bod yn bosibl nad yw'r llythyrau safonol a gaiff eu hanfon gan fyrddau iechyd yn bodloni anghenion unigryw cleifion mewn modd digonol. Mynegodd ei barodrwydd i drafod y mater gyda’r byrddau iechyd, gyda’r nod o ddylanwadu ar unrhyw newidiadau posibl i’w templedi.

Awgrymodd Mr Day y dylid archwilio data sy’n gysylltiedig â’r defnydd o wasanaethau dehongli dros gyfnod o amser, gan gymharu Iaith Arwyddion Prydain ag iaith lafar, a chan gyflwyno siartiau neu adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd y grŵp yn y dyfodol.  Cadarnhaodd Mr Howls y ffaith bod Iaith Arwyddion Prydain yn gyson ymhlith y tair iaith y gofynnir amdanynt fwyaf. Soniodd am yr amrywiadau tymhorol a welir yn y galw, a nododd y cynnydd a welir o flwyddyn i flwyddyn yn y galw cyffredinol. Hefyd, nododd Mr Howls y gofynion ar gyfer dehonglwyr, gan bwysleisio'r angen iddynt gofrestru gyda’r Cofrestrau Cenedlaethol o Weithwyr Proffesiynol Cyfathrebu sy'n gweithio gyda Phobl Fyddar a Byddar a Dall (NRCPD), yn ogystal â chymhwyster llawn, a phrofiad addas.

Gwneud cwynion am wasanaethau iechyd

Sonia Thomas, Eiriolydd Cwynion, Llais

Diolchoch Ms Thomas i’r grŵp am y gwahoddiad. Cynigiodd gyflwyniad i’r grŵp, ond awgrymodd ei bod yn rhoi trosolwg byr. Mae Ms Thomas yn gwasanaethu fel eiriolydd cwynion ar ran sefydliad Llais. Mae’n gyfrifol am Bowys yn ei chyfanrwydd. Mae Llais yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddisodli’r Cynghorau Iechyd Cymuned.  Soniodd Ms Thomas am y gwasanaethau a ddarperir gan y corff, gan gynnwys gwasanaeth eirioli annibynnol a chyfrinachol mewn perthynas â chwynion ynghylch triniaeth y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ceir mynediad i ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain drwy gytundeb â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Bu Ms Thomas yn trafod y broses o lansio gwefan newydd, gan gydnabod bod angen sicrhau gwelliannau. Soniodd am y ffaith nad yw Iaith Arwyddion Prydain wedi’i chynnwys ar y wefan, ond nododd yr ymdrechion parhaus sy’n cael eu gwneud i fynd i'r afael â materion hygyrchedd yn sgil archwiliad. Mae Llais yn darparu cymorth i gleifion o ran y broses o wneud cwynion, gan gynnwys drafftio llythyrau, mynd i gyfarfodydd, a sicrhau bod y gŵyn dan sylw yn cael ei throsglwyddo i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, atebodd Ms Thomas gwestiynau am allu'r sefydliad i gynnal ymweliadau dirybudd. Yn ogystal, atebodd gwestiwn gan Ms Winn ynghylch monitro ac olrhain materion gweithredu sy'n ymwneud â mynediad at ofal iechyd.  Cadarnhaodd Ms Thomas fod unrhyw faterion sy’n cael eu codi yn cael eu trosglwyddo i'r Cyfarwyddwr Rhanbarthol, sydd â’r gallu i ymgysylltu'n uniongyrchol â’r byrddau iechyd. Gwnaeth Ms Thomas gynnig rhannu unrhyw bryderon am faterion gweithredu â’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol at ddibenion cymryd camau pellach.

Unrhyw fater arall

Gofynnodd Mr Day am adroddiad byr gan Mr Howls yn cynnwys ffigurau sy'n ymwneud â mynediad at wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg, i'w rannu â chydweithwyr. Cytunodd Mr Howls i ddarparu'r adroddiad, a rhannodd ei gyfeiriad e-bost er mwyn cynnal trafodaethau pellach.

 

Cododd Tony Evans bryderon am y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â’r Grŵp Cyfathrebu Hygyrch y mae’r llythyr yn sôn amdano. Gofynnodd a oedd unrhyw un yn gwybod pwy oedd aelodau'r grŵp, ac a oeddent wedi gweld y canllawiau ar gyfer defnyddio dehonglwyr a chyfieithwyr ar y pryd. Dywedodd Ms Buchanan nad oedd hi erioed wedi gweld na chael gwahoddiad i grŵp o'r fath. Soniodd Ms Winn am fod yn rhan o grŵp nad oedd ganddo enw swyddogol, a ffurfiwyd at ddibenion mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chydymffurfio â Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu Gwybodaeth Hygyrch. Cynigiodd Ms Winn fod y mater yn cael ei drafod ymhellach, a rhannodd ei chyfeiriad e-bost.